D’wedai, agorai’r gwir-air,—
“Clyw frenin gerwin, y gair!
’R hyn ddaw, trwy fy llaw i’r llys,
Duw y dynged a’i dengys;
Am ennyn aer mwy na neb,
Troi a chynnal trychineb,
Gwneyd ochain yn seilfain sedd,—
Rhoi dy wersyll ar d’orsedd!
Am ddifrodi, llosgi, lladd,
Brad amlwg, a brwd ymladd;
A rhoi bro, mewn taro tynn,
I wylo am Lywelyn:—
(Iachawdwr a braich ydoedd,
Ac anadl ein cenedl oedd;)
Fel y rhoist gur, mesur maith,
Y telir i ti eilwaith.
O! trochaist lawryf mewn trwch-waed,
Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed.
Hwn geraist yn lle gwirawd,—
Bleiddiaid sy’n ffoi rhag cnoi cnawd.
Y mae maith och mam a thad,
Gwaedd a chur gweddw a chariad,—
A main lle mae ymenydd
Llawer dewr, a gollai’r dydd,—
Temlau, ac aneddau’n wag,
Yn rhoi manwl air mynag,—
I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,—
Iddo gael buddugoliaeth:
Ond llion mawrion am hyn
O ddialedd a ddilyn.
“Awr na feddyli, daw’r nef ddialydd,
Dy waed oera ar dywod y Werydd;
Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,
Hon a’th boena—gyrr ddrain i’th
obenydd;
Caiff Brython gwirion dan gerydd—fyw’n
llon,
Eu muriau’n llawnion, a marw’n llonydd.
“A gwaeth nac oll a wnaethost,
Mewn du far mynni dy fost,—
Gwenaist pan gwelaist galon
Wiw a phur ar waew-ffon!
Ti ddigred, ni roist ddeigryn
Yn y lle yr wylwyd llyn!
Llanwaist gron goron a gwaed,
Ac arall yf y gorwaed!
Clyw’n swn!—mwd Bercley’n seinio,
{26}
Dychryn i’w ganlyn ac O!
Marwol loesion bron Brenin,
Tan grafangau bleiddiau blin.
Hyfryd dduwiesau Hafren,
Pan glywant a wisgant wen.
Daw blwyddau llid a bloeddiad,
Du hin, ar warthaf dy had!
Clyw! ddolefau, briwiau bron,
O’r Twr Gwyn {27} mae’r taer gwynion;
Dy hilion, mewn du alaeth,
O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!
A mynych gwna cromeni
Y Twr cras watwor eu cri:
Ni adewir o’r diwedd
Wr o dy sil ar dy sedd.
“Ha! ha! ’r dwyrain egyr ei dorau,—
Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau
Creigydd, moelydd, a du gymylau?
Nage, gwawrddydd glan, eirian oriau,
Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;
Gwelwch Gymru ar fynydd golau,
A’n iach wyrion o’i chylch yn chwarau,
(Rhos sy’ o danynt ar sidanau,)
Hust! ust! ust!—mae’n dyfod i’m
clustiau,
Gathl enwog oddiar ei thelynau,—
Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,
Yn dorf bloeddiant,—’Wi! darfu blwyddau
Yr ochain anwar a chynhennau;’—
Par y don i’m hyspryd innau—roi llam,
Mwy e grychneidia’m gorwych nwydau.
“Daw dyddiau mad a diddan,
A mawr lwydd i Gymru lan;
Dyddiau bwrcaswyd iddi,
Ar dy ddichell dywell di;
O Dduw Ner daw’r hoewder hwn,
I’n Duw eilchwyl diolchwn:
Derfydd amser blyngder blin,
Curaw tymhestlog gerwin.
Daw hinon a daioni
O dy drais, na’s tybiaist ti;
Bydd cof mewn gwledd am heddyw,