Cymro boed i’r Cymry byth!’
Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin
Iau ar warr un o’r werin!
Daw’r telynau, mwythau myg,
Ddewr eu hwyl, oddiar helyg;
Rhed awen, er id wahardd,
Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd;
Gwnant glymau a rhwymau rhom,
Enynnant y tan ynnom;
Dibrin pawb oll dadebrant,—
Heb ochel, i ryfel ’r ant;
A’n mynwes yn lloches llid,
Ein harwyddair fydd ‘Rhyddid!’
“Ag arfau ni wna’n gorfod
Tra’n creigiau a’n bylchau’n bod;
Cariwn mewn cof trwy’r cweryl,
Y’mhob bwlch, am Thermopyl;
Gwnawn weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon;
Yn benaf llefwn beunydd,—
‘Marw neu roi Cymru’n rhydd?’
“Os colli’n gwlad, anfad wyd,
O’r diwedd dan ruddfan raid,—
Yn lle trefn, cei pob lle troed,
Wedi ei gochi a’n gwaed;
Trenga’n meibion dewrion dig,
A llawryf am y llurig.
“Yn enw Crist eneiniog—ymroddaf
Am ryddid ardderchog;
A’r un Crist fu ar bren crog,
Ni ymedy a Madog.”
E daw ar hyn,—d’ai ar ol
Ryw ddistawrwydd ystyriol.
Ac Iorwerth, ar y geiriau,
Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;
Malais y Sais, echrys wg,
A welid yn ei olwg.
Tyb Euraid Ap Ifor.
O ryw fuddiol arfeddyd,—rhoi’n
rhagor
Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,—
“Hyf agwrdd bendefigion,
Rhy brysur yw’r antur hon;
Ar furiau tref, ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?
Mae llid yn fy mron hynaws,
At Saeson, a’u troion traws;
Ond serch, a glywserch i’m gwlad,
O’m calon a rwyddlon red;
Na ato fyth, etwa fod
Neint hon yn gochion i gyd,—
Arafwn,—o’r tro rhyfedd
Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd;
E ddaw ergyd ddiwyrgam,
Lawn cur, i ddial ein cam;
Ac hefyd dylid cofio,—
Er prudded, trymed y tro,—
Er angeu’r gair fu rhyngom,
’R amodau, rhwymau fu rho’m:
Pan roddo Gymro y gair,
Hwnnw erys yn wir-air;
Ei air fydd, beunydd heb ball,
Yn wir, fel llw un arall:
Ein hynys hon i estron aeth,
A chyfan o’n gwiw uchafiaeth;
Ond ni throes awch loes, na chledd,
Erioed mo ein hanrhydedd;
A’n hurddas a wnawn arddel,
Y dydd hwn, a doed a ddel:
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,
Ar Dduw a’i wir addewid.
Duw a’n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd, o’r hadledd hwn;
Heddyw, oedwn ddywedyd
Ein barn, yn gadarn i gyd;
Profwn beth dd’wed ein prif-fardd,—
Gwir iawn bwyll yw geiriau’n bardd;—
Pa lwyddiant, yn nhyb Bleddyn,
A ddigwydd o herwydd hyn?”
Amneidient mewn munudyn
Ar yr ethol ddoniol ddyn,—
Yna, a phwys ar ben ei ffon,
Y gwelid y gwr gwiwlon:
Ei farf fel glan arian oedd,—mewn urddas,
Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd;
Yn null beirdd, enillai barch,—ar bob peth
E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.
Proffwydoliaeth Bleddyn.