Yna’r arglwyddi unol
A gilient, nesent yn ol,
Gan grymu pen i’w Brenin,
Laig ei glod, a phlygu glin.
Ufudd-dod y Frenhines.
E geisiai frys negesydd
Yn barod, cyn darfod dydd,—
A gyrrai, ar farch gorwych,
I’r brif-ddinas y gwas gwych,
A gofynaig i’w Fanon,
A gair teg am gariad hon:
Y lonwech bur Elinawr
Serchog, oedd yn feichiog fawr;
Gofynnai a hwyliai hon,
Gryn yrfa, i Gaernarfon,
Ar fyrder, fod mater mawr
I’w ddisgwyl y dydd esgawr.
O fodd ufuddhaodd hon,
Iach enaid, heb achwynion;
Dechreuai’r faith daith, ’run dydd,
Mewn awch, a hi’n min echwydd;
Gwawl lloer, mewn duoer dywydd,
A’i t’wysai pan darfai dydd;
Oer y cai lawer cawod,
Cenllysg yn gymysg ag od;
Anturiai, rhodiai er hyn,
Trwy Gwalia, tir y gelyn;
Er ymgasgl bar o’i hamgylch,
A’i chell yn fflamiau o’i chylch,—
Ni wnai hon ddigalonni,
Mor der oedd ei hyder hi;
(Ow! ow! ’n wir beri’r bwriad
Tra glew, er dinistrio gwlad:)—
Daeth, wrth deithio o fro i fryn,
Y faith yrfa i’w therfyn.
A’r deyrnes gynnes, heb gel
Yn ddiegwan ddiogel;
Rhoes Iorwerth eres warant,—
Ae rhingyll i gestyll, gant,
Am alw cydymweliad
Brenin ac arglwyddi’n gwlad:
Rhuddlan oedd y fan i fod
Hygof erfai gyfarfod;
I dorri rhwystrau dyrys
Y gelwid, llunid y llys:—
D’ai’r eurfig bendefigion
O amryw le ’Nghymru lon;
Yno y daeth yn y dydd,
Gwalia o gwrr bwygilydd.
Ond oedai Edward wedyn
Eu galw i’r llys, hysbys hyn;
Disgwyliai a dwys galon,—
Heb gau ei amrantau ’mron,
I’w fanon wirion, arab,
Ar awr ferth, esgor ar fab.
Harddai y lle—rhoi fwrdd llawn,
A gosod rhyw esgusiawn;
Ond er yr holl arfolli
Holl blaid ein penaethiaid ni
Ni charent y gwych aeron—
Y dawnsiau a’r llefau llon:
Y morfa llwm a hirfaith,
Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,
A myfyrient am fawrion
Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,—
Y glewion, enwogion wyr
Laddwyd, a’r prif luyddwyr:
Rhodient pan godai’r hedydd
Fel hyn, hyd i derfyn dydd;
A’u dyddiau oll fel diddim,
Synnent, ond ni ddwedent ddim:
Wedi egwyl ddisgwyliad,
O fewn eu bron daeth ofn brad,—
Swn, fal rhwng sisial a son,
“Llawrudd a chyllill hirion;”
’Roedd gwaelod y trallod trwch,
I wyr Gwalia’n ddirgelwch.
Geni Tywysog.
Wele! o’r diwedd, ar ol hir dewi,
Deuai i Iorwerth genadwri
O Gaersalwg,—gwnai ei groesholi,—
Yna ei holl anian oedd yn llonni
Hyd grechwen, pan glywodd eni—bachgen
Ag aur wialen a gai reoli.
Ac yna a’i udganwr
A’i gorn teg i gern y twr:
Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,
Ar heng hirfaith i ddod i’r gynghorfa.
Pob rhyw gadr waladr oedd
Yn esgud yn ei wisgoedd;
Distain wnai iddynt eiste
Bob yn lwyth—bawb yn ei le:
Deuai’r Ynad dirinwedd,
Mewn parchus, arswydus wedd;
Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,
Coron ar y coryn oedd;
A gwyneb yn llawn gweniaith,
O drefn y dechreuai draith.