“Pa les yw fod im’ glod glan
Am arswydo’r mawr Sawdan,—
Pylu asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon wron i weryd,
Ie, curo beilch wyr y byd,—
Os Gwalia wen,—heb bennaeth,
A’i mawrion gwiwlon yn gaeth,—
Heb fur prawf,—heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,—
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri’n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda’r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na’m harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo’r byd.
“Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O’m plaid llu o ddiafliaid ddel:
Trowch ati’r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.
“I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,—gwanu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
Dichell Iorwerth.
“Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i’r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.
“Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo’n well?
Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,—
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?
Pa gais? pa ddyfais ddifeth
Gaiff y budd,—ac a pha beth?
“’Nawr cefais a wna r cyfan,—
Mae’r meddwl diddwl ar dan;
Fy nghalon drwy ’nwyfron naid,
A llawenydd ei llonaid;
Gwnaf Gymru uchel elwch,
I blygu, a llyfu’r llwch:—
I wyr fy llys, pa’nd hyspyswn
Wiw eiriau teg y bwriad hwn?”
A chanu’r gloch a wnai’r Glyw,
Ei ddiddig was a ddeddyw,—
“Fy ngwas, nac aros, dos di,
A rhed,” eb ei Fawrhydi,—
“Galw ar fyrr fy Mreyron,
Clifford hoew, Caerloew lon;
Mortimer yn funer fo,
A Warren, un diwyro.”
Deuent, ymostyngent hwy
I’w trethawr, at y trothwy:
O flaen gorsedd felenwawr
Safai, anerchai hwy’n awr,—
“Cyfeillion bron eich Brenin,
A’i ategau’r blwyddau blin,—
Galwyd chwi at eich gilydd
Am fater ar fyrder fydd;
Gwyddoch, wrth eu hagweddau,
Fod llu holl Gymru’n nacau
Ymostwng, er dim ystyr,
I’m hiau o gylch gyddfau’u gwyr;
Ni wna gair teg na garw,—
Gwen, na bar,—llachar, na llw,
Ennill eu serch i’m perchi,
Na’u clod i’m hawdurdod i:
Ni fynnant Bor, cynnor cain,
Ond o honynt eu hunain;
Ganedig bendefig da,
O’u lluoedd hwy a’u llywia:—
Ond cefais, dyfeisiais fodd,
O dan drais, i’w dwyn drosodd;
Ac i mi gwnant roddi rhaith,
Ac afraid pellach cyfraith;
Rhoi llyffeithair a gair gaf,—
Gair Gwalia gywir goeliaf:—
Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon
Er lliaws, dorri llwon:
Elinor, lawen araf,
Mewn amhorth yn gymorth gaf;
Mererid i’m Mreyron
I’w cais pur trwy’r antur hon.”
Traethai’r Brenin, gerwin, gau,
Ar redeg ei fwriadau;
A’r Cyngor wnai glodfori,
Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,
A’i ddihafal rialyd,
Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.