Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell
Lle cartrefai’r anthem gynt;
Nid oes yma, o gor i gangell,
Un erddygan, ond y gwynt.—
Felly darffo pob coel-grefydd,
Crymed byd ger bron y Gwir;
Hedd a chariad, ar eu cynnydd,
Fo’n teyrnasu tros y tir.
CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.
Gorffwys donn, dylifa’n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pa’m y byddi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod,—
Cysga dithau ar dy dywod.
Gorffwys for! mae ar dy lasdon
Un yn dwyn serchiadau ’nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, for diddarfod,
Cysga’n dawel ar dy dywod.
Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;
A pha esgus iti ffromi?
Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:
Tyrd a bad fy ngwr i’r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.
Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan bo’i gwr ar gefn y dyfnder;
Ond os cyffry dig dy donnau,
Pwy a ddirnad ei theimladau?
O bydd dirion wrth fy mhriod,—
Cysga’n dawel ar dy dywod.
Byddar ydwyt i fy ymbil,
For didostur, ddofn dy grombil;
Trof at Un a all dy farchog
Pan bo’th donnau yn gynddeiriog;
Cymer Ef fy ngwr i’w gysgod,
A gwna di’n dawel ar dy dywod.
[Gwraig y Pysgotwr. “Gorffwys for, mae ar dy lasdon Un yn dwyn serchiadau ’nghalon.”: alun105.jpg]
Y DDEILEN GRIN
Sech yw’r ddeilen ar y brigyn,
Buan iawn i’r llaid y disgyn;
Ond y meddwl call a ddarllen
Wers o addysg ar y ddeilen.
Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni,
Gwawr y nef orftwysodd arni;
Gyda myrddiwn o gyfeillion,
Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.
Darfu’r urdd oedd arni gynnau,
Prin y deil dan wlith y borau,
Cryna rhag y chwa ireiddlon
Sydd yn angeu i’w chyfoedion.
Ni all haul er ymbelydru,
Na llawn lloer er ei hariannu,
Ac ni all yr awel dyner
Alw yn ol ei hen ireidd-der.
Blaguro ychydig oedd ei chyfran,
Rhoi un wen ar wyneb anian;
Llef o’r nef yn Hydref waedda—
Darfu’th waith,”—a hithau drenga.
Footnotes:
{1a} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{1b} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{1c} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{1d} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{26} Cyfeiriad at farwolaeth echrydus Iorwerth II. Cym. The Bard, Gray.
{27} Man y llofruddiwyd llawer o hil Edward.
{28} Harri VII., buddugwr Bosworth.
{33} Yr arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,—“Nes llenwi hol ddaear.”
{45a} Flodden Field, by Sir Walter Scott.
{45b} Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans.