Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,
Gan addaw pob mwyniant os unit ag
ef,—
Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn
Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot
a’r nef:
Yn Hodnet {105} yn hir saif dy enw ar galonnau
Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy’th bregethau—
Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau—
Y weddw a noddaist—y
wan wneist yn gref.
Gadewaist a’th garant—yn ysbryd Cenadwr
Y nofiaist tros donnau trochionog
y mor,
I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr
I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;
Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain—
Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain—
Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain
Na sengaist ti India heb gwmni dy
IOR.
O Gor Trichinopoly, cadw di’n ddiogel
Weddillion y Sant i fwynhau melus
hun,
Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,
Gofynnir adfeilion ei babell bob
un;—
Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,
A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,
Yn arwyl y Bardd a pha odlau cymhwysach
Dilynir ei elor na’i odlau
ei hun?
“Diangaist i’r bedd—ni alarwn
am danad,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw’r
bedd;
Agorwyd ei ddorau o’r blaen gan dy Geidwad,
A’i gariad gwna’r ddunos
yn ddiwrnod o hedd.
Diangaist i’r bedd—ac ni welwn di
mwyach
Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen:
Ond breichiau rhad ras a’th gofleidiant ti bellach,
Daeth gobaith i’r euog pan
drengodd yr Oen.
“Diangaist i’r bedd—ac wrth
adael marwoldeb
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist.
Diangaist i’r bedd—byddai’n
bechod galaru,
At Dduw y diangaist—y Duw a dy roes:
Efe a’th gymerodd—Efe wna’th
adferu
Digolyn yw angau trwy angau y groes.”
* * * * *
Cyfieithiad yw’r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,—
“Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee, Though sadness and sorrow encompass the tomb.”
SEREN BETHLEHEM.
(Cyfieithiad o Saesoneg H. K. White.)
Pan bo ser anhraethol nifer
Yn britho tywyll lenni’r nen,
At un yn unig drwy’r eangder
Y tal i’r euog godi ei ben;
Clywch! Hosanna’n felus ddwndwr
Red i Dduw o em i em,
Ond un sy’n datgan y Gwaredwr,
Honno yw Seren Bethlehem.
Unwaith hwyliais ar y cefnfor
A’r ’storm yn gerth,
a’r nos yn ddu,
Minnau heb na llyw, nac angor,
Na gwawr, na gobaith o un tu,
Nerth a dyfais wedi gorffen,
Dim ond soddi yn fy nhrem,
Ar fy ing y cododd seren,
Seren nefol Bethlehem.
Bu’n llusern a thywysydd imi,
Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd,
Ac o erchyll safn y weilgi
Dug fi i borthladd dwyfol hedd;—
Mae’n awr yn deg, a minnau’n canu,
F’achub o’r ystorom
lem,
A chanaf pan bo’r byd yn ffaglu
Seren! Seren! Bethlehem!