“Ni foddir (mae’n rhyfeddol)—chwai
angau,
A chyngor dymunol;
Er wban, griddfan greddfol,
(Uthr in’ yw!) ni thry yn
ol.
Er gwaedd mam,—er gweddi myrdd,
Er gwen byd,—er
gwyneb hardd,
Er swn cwyn,—er seinio
cerdd,
Er ing ffull, mynn angau’i
ffordd.
Ni eiriach rai bach rhag bedd,—i’r
cedyrn
Rhoir codwn i’r
dyfn-fedd;
A mirain feibion mawredd
Ostyngir, siglir o’u sedd.
I’r llaid yr aeth fy nhaidiau,—i
huno,
Fu’n heinyf
er’s dyddiau:
I’r ystafell dywell dau,
Ryw funud, yr af innau.
Ond cael nod hynod, a hedd—yr Iesu,
A drws i dangnefedd;
Yn dawel yn y diwedd,
Af i gaban bychan bedd.
CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.
Boed llwydd, mewn pob dull addas,—a chynnydd
I’ch enwog
Gymdeithas;
Heb stwr, na chynnwr, na chas—
Geni beirdd heirdd fo’i hurddas.
Bu gannoedd drwy bob gweniaith,—addefent,
Am ddifa’r
Omeriaith;
Aent hwy i lawr i fynwent laith—
I fyny safai’r fwyn-iaith.
Heddyw gwelaf na faidd gelyn—er gwyn,
Roi gair yn ei
herbyn;
A dolef gref sy’n dilyn,
“A lwyddo Duw, ni ludd dyn.”
Cur llawer fu Caerlleon,—y gw’radwydd
Sy’n gwrido
hanesion;
Am groesi’r Clawdd hir i hon,
Brethid calonnau Brython.
’Nawr Cymry gant wisgant wen,
Chwarddu gant
a cherddi gwin,
Ceir bri, a chwmni, a chan,
O fewn Caer heb ofn y cwn.
Byw undeb, gyda bendith,—a daenir
O’ch doniawl
athrylith:
Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith
I chwerwi’ch plaid, na chaer
i’ch plith.
DAU ENGLYN
Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed.
Gan Naf eiddunaf i’r ddau—bob undeb,
A bendith, a grasau,
I fyw’n hir, ac i fwynhau
Dedwyddwch hyd eu dyddiau.
Eirchion y gwaelion heb gelu,—pur rad
Parhaus fo’n
defnynnu:
Pob urddawl ollawl allu
Iddyn’ ddel—medd
Ioan Ddu.
Tach., 1812
GENEDIGAETH IORWERTH II.
Llais llid Iorwerth.
Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd!
Gorthaw’r donn, cerdda’n llonydd,
Ust! y ffrwd,—pa sibrwd sydd?
O Ruddlan daw’r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog Iorwerth,
O ’stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,—
Hunan-ymddiddan yn ddwys:
Clywch, o’r llys mewn dyrys don,
Draw’n sisial deyrn y Saeson,—
“Pa uffernol gamp ffyrnig?
A pha ryw aidd dewraidd dig?
Pa wrolwymp rialyd
Sy’n greddfu trwy Gymru ’gyd?
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg ryddid,—
’Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;
Ein gwlad, a’n ffel wehelyth,—
Hyd Nef,’ yw eu bonllef byth;
Ac adsain main y mynydd,—
Och o’u swn!—yn gasach sydd;
‘Ein gwlad lan amhrisiadwy,’
Er neb, yw eu hateb hwy.