“A’th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,
A’th enaid yn dan o enyniad
y Nef,
Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,
Gyda’r un serch ac addfwynder
ag ef;
Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,
Enillai’r digred at y groes a’r gwirionedd,
Llonyddai’r gydwybod mewn nefol drugaredd;—
Mor chwith na chaf mwyach byth glywed
dy lef.
“Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,
Cyfrenit elfennau danteithion y
nen;
Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,
A gwenent wrth deimlo dy law ar
eu pen;
Doe y datgenit fod Nef i’r trallodus—
Heddyw ffraethineb sy’ fud ar dy wefus—
Ehedaist o’r ddaear heb wasgfa ofidus,
I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen.
{103a}
’Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti’r
diwrnod
’Raeth Heber o rwymau marwoldeb
yn rhydd;
Y grechwen sy’n codi o demlau’r eulunod,
Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;
Juggernaut {103b} erch barotoa’i olwynion—
Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion—
Duodd y nos—ac i deulu Duw Sion
Diflannodd pob gobaith am weled
y dydd.”
Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,
Gwnai gam ag addewid gyfoethog yr
IOR:
A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?
Os pallodd yr aber, a sychodd y
mor?
Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,
Yn ennyn o’r Gauts hyd gopau Himalaya, {104a}
Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,
O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.
A hwyrach mai d’wyrion a gasglant dy ddelwau
A fwrir i’r wadd ar bob twmpath
a bryn,
Ar feddrod ein Heber i’w rhoi yn lle blodau,—
Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn
hyn:
Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,
Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,
Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,
Os dinodd y gerdd bydd y llygad
yn llyn.
Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i’r beddrod,
Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;
Yn nghanol dy lesni y gwywaist i’r gwaelod,
A’th ddeilen yn ir gan y wawrddydd
a’r gwlith:
Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,
A’r fantell esgobawl am wisg wen yn Sion,
Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,
A thithau gymysgaist dy hymn yn
eu plith.
Llwyni Academus, {104b} cynorsaf dy lwyddiant,
Lle gwridaist wrth glod y dysgedig
a’r gwar;
Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant
O alar ac alaeth i’r lluoedd
a’th gar:
Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i’th hoffi,
Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri
A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri
Yn golchi dy fynwent wrth draeth
Tanquebar.
Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,
O Helicon yfaist ym more dy oes;
Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,
A swyn pob testynau daearol a ffoes:
Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,
A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;
Tithau’n ddi-fost a dderbyniaist eu cedau,
I’w hongian yn offrwm ar drostan
y Groes.