Trwm wibio llygad llaith
Am danat yw fy ngwaith;
A rhodio godre’r bryn,
A gwyrddion lannau’r llyn,
Lle rhodit ti cyn hyn,
Sior anwylaf.
Mae peraidd flodau d’ardd
Yn gwywo fel dy fardd;
A’th ddefaid hyd y ddol,
A’u gwirion wyn o’u hol
Yn gofyn ddo’i di’n ol,
Sior anwylaf.
Mae’n Nghymru laeth a mel,
Mae’n Nghymru fron ddi-gel,
Mae’n Nghymru un yn brudd
O’th eisiau, nos a dydd,—
A’i gair wrth farw fydd,
Sior anwylaf.
MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.
Lle treigla’r Caveri {101} yn donnau tryloewon,
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad
a’r pin
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar
a’r gwin;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A’i fron braidd rhy lawn i’w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros
ei fin:—
“Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy
nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn
awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd
i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd
Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.
“Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd
I’th fynwes fendithion rhagorach
nag un,
Yn ofer ag urdd bryd a phryd y’th anrhegwyd,
Cywreindeb i fab, a phrydferthwch
i fun;
Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,
A blodau amryliw yn hulio dy anial,
A nentydd yn siarad ar wely o risial,
A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd
y dyn.
“Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn
Ddillynion per anian yn fil ac yn
fyrdd;
Yn ofer y gwisgwyd pob dol a phob dyffryn
A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;
Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,
A gwythi o berl i fritho dy ddaear;
Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar
Yr angrhed a’i anrhaith yn
llenwi dy ffyrdd.
“Dy goelgrefydd greulon wna d’ardd yn
anialdir,
Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder
a cham:
Pa oergri fwrlymaidd o’r Ganges {102a} a glywir?
Maban a foddwyd gan grefydd y fam:
Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;
O! dacw’r nen gan y goelcerth yn rhuddo,
Ac uchel glogwyni y Malwah {102b} ’n adseinio
Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.
“Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
A’r aberth anfeidrol ar ael
Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree;
{102c}
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—
Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd
i mi. {102d}