“Ya le y mae! ow gwae! ai gwir?
Nad yn ei dir, o dan y dail
A eiliai gynt drwy helyg ir?—
Nid uwch ei fir—gan d’wchu
ei fail;—
Ni wela wych olygfa’r waen,
Ni swnia’i droed yn nawnsiau’r
dref,
Gwych yw’r olygfa fel o’r blaen,
A dawnsia myrdd, ond ple mae
ef?
Ei ddiddan Elia ddyddiau’n ol
Dywysai i’r ddol ar hwyrol
hynt;
Wrth ochrau’r llyn o’r dyffryn dardd
A gwaelod gardd fe’i gwelwyd
gynt;
Is gwe o fill ni wasga’r fun,
(Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef
Ag urdd o ros). Mae’r gerddi’r un,
Ac Elia’r un—P
le gwelir ef?
Fel nablau’r cor rhoe’i gerddor gan,
O’i deithi glan, nid aeth
yn gloff;
Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant,
Oddeutu ei nant sydd eto’n
hoff
O’i dy—mur hwn nid yw mor hardd;
Adwyau geir ar hyd ei gae,
A gwywa’n rhes eginau’r ardd,
Ymhola mill—Y mh’le
mae ef?
Mae beddfan newydd yn y Llan,
Yr aelwyd ddengys gadair wag;
Ac wrth y bedd, a’r wedd yn wan
Doluriau serch rhyw ferch a fag;
A’r ddol, lle bu yn gadu’r gwynt,
Ni wela’i lun, ni chlywa’i
lef,
Bonllefau rhai a garai gynt,
Pa le maent hwy? Pa le mae ef?
GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.
Englynion difyfyr i’r Arglwyddes Clive a’i phlant.
Enynnwn i uniawn annerch—talaeth,
Am roi telaid
eurferch
Montrose, mewn rhwymyn traserch
I Bowys hen—man gwib
serch.
Yr ysgeill yn ol hir wasgar—can-oes
I’r cenin
sy’n gymar;
Tan wen cyd-dyfant yn war
Eu deuodd yn fri daear.
Mwy yn yr hil, y mae’n rhaid—y rhennir
Holl rinwedd y
ddwy-blaid;
Trwy eu bron, yn hylon, naid
Hen nwyfau eu hynafiaid.
Os daw rhyw haid, i rwystro hedd—ein tir,—
Nes troi ein tai’n
garnedd,
Yn y ddiras gynddaredd,
Hil Clive fydd yn dal y cledd.
Ond i hedd a dyhuddiant,—i godi
Dysgeidiaeth,
tueddant,
Awenyddion a noddant,
Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.
Trwy’u diwrnod tyrred arnynt—bob
undeb
A bendith—llwydd
iddynt;
Anwylaidd gynnal wnelynt
Dud a gwaed hen dadau gynt.
CAROLINE.
Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan, Trefaldwyn.
Ceisiais dybio’r son yn anwir,
Syrthio Caroline i lawr,
Ac nad allai seren eglur,
Fachlud wedi t’wnnu ond awr:
Ond y glul ar gefn yr awel,
Swn y fron yn hollti’n ddwy,
Adsain och sy’n gwaeddi’n uchel,
Ofer anghrediniaeth mwy.
Hir y cofir y diwrnod
A esgorodd ar y gwae,
Pan y rhedai i gyfarfod
Cyfeillesau i odrau’r cae;
Blaenai’r dyrfa tu a’r annedd,
Crechwen ar ei hwyneb pryd;
Ychydig dybiai mai i’w hangladd,
’Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.