IFOR CERI.
TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.
Berriew, March 1st, 1824.
REV. AND DEAR SIR,
In Mr. Richards, my expectations have been more than realised; and I cannot sufficiently express my thanks to the Committee for selecting such a person to be my tutor. His kind solicitude for my domestic comforts, is as unremitting as his attention to my advancement in literary pursuits. His religion is so far removed from wild enthusiasm as it is from cold and affected formality. The chaste and pious manner in which he offers up the family devotions, with his Christian precepts and example, have made so deep an impression upon my mind, as will prove, I trust, to my spiritual advantage.
EMYN PASG.
Wele’r Ceidwad gaed yn Meth’lem
Acw’n marw dan ei loes,
A gwyryfon tyner Salem
’N gwlychu a dagrau droed
ei groes:
Caua’r haul ei lygaid llachar
Rhag gweld clwyfo’r Sanct
ei hun;
Ei ruddfanau sigla’r ddaear,
Cryna pob peth ond y dyn.
Deuwch saint, gollyngwch ddagrau
Uwch trychineb Calfari,
Dros yr hwn a roes ochneidiau
Dan y baich haeddasoch chwi;
Drosoch hidlodd ddafnau heilltion
Is arteithiau gwg y nen,
Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon,
Yna trengodd ar y pren.
Dyma dristwch heb ei debyg,
Gras a chariad pur y’nglyn,
Duw’r gogoniant dan y dirmyg,
Ac yn marw i brynu dyn:
Ond wele achos llawenychu!
Testun can dragwyddel fydd,—
Iesu’r Ceidwad sy’n dadebru
’N gynnar ar y trydydd dydd.
Gwelwch fel mae’n concro angau!
Syllwch ar ei ddwyfol wedd!
Grym ei fraich, a gair ei enau,
Sydd yn dryllio bolltau’r
bedd:
Llengau’r nef, anrhaethol nifer,
A’i gwarchodant tua’i
wlad—
Rhwygai cerddi yr ehangder,
Cerddi croeso i lys ei Dad.
Bellach, saint, eich dagrau sychwch,
T’rewch y gu dragwyddol gan,
C’weiriwch eich telynau, cenwch
Wyrthiau eich Gwaredwr glan:
Dwedwch iddo fathru’r gelyn,
‘Speilio lluoedd certh di
ri’,
T’wyso angau du mewn cadwyn,
A chysegru’r bedd i chwi.
Bloeddiwch, ’Ryfedd Frenin Sion,
Doed y ddaear dan dy iau!
Ganwyd ti’n Waredydd dynion,
Wyt yn gadarn i iachau.’
Gofynnwch wedyn i’r anghenfil,
’Ple mae’th golyn oer
yn awr?
Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil,
P’le mae’th fuddugoliaeth
fawr?’
ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES.
Eisteddfod y Trallwm, 1824.
Gwalia lwyd lonwyd eleni,—Awen
Flodeua fel lili;
Bron bun yw ei gardd hardd hi,—
Hil anwyl hael Lyweni.
“A PHA LE Y MAE.” Job xiv. 10.