Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Hwy ddeallent, modd hollol,
A ddwedai, ’nawr, am ddod’n ol,
Ryw ddiwrnod, a dyrnod du
Dialedd ar ei deulu.

Iddo fe gwnaed angladd fawr,
Hir wylwyd ar ei elawr: 
(Mae natur bur ei bwriad
A maith ddeddf mewn mam a thad;)
Er brad, er braenaru bron
Ei rieni, rai union,—­
Eto wylodd y teulu,
Am y mab, fel cynfab cu;
Ni pheidient am anffodion
A thranc gwas ieuanc, a son;
Ac a pharch gwnaent er cofthau,
Hel peraidd, lwysaidd lysiau;
Hel mwysion freila maesydd,
Hel blodau ar gangau’r gwydd;
Hel mawr ar lili mirain,
Hel y rhos ar ol y rhain;
Hel llawryf digoll irwedd,
Hela’r bawm i hulio’r bedd: 
A dagrau rhwydd, sicrwydd serch,
Mwydent, llenwent y llannerch.

Garmon, er cof mwynlon mad,
Gweddus, o’r holl ddigwyddiad,
O fewn y tir roes faen teg,
A geiriau ar y garreg;—­

“Daw hinon, er llid annuw,
I’r dyn doeth a gredo’n Duw;
A dylaeth, barn, a dolef,
I’r adyn fo’n erbyn Nef.”

ABERIW.

AT MR. E. PARRY.

Berriew, Chwef. 10, 1824.

ANWYL GYFAILL,

Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal dirionderau.  Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o fangre fy mam.  Daethum yma y 30ain o’r mis diweddaf, a chefais Mr. Richards a’r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig.  Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i’r Brif Ysgol,—­ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a’u tymherau i’w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o’r bru, a’r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o’m hainfodiad yn eu plith.  Fel hyn, y mae’r coelbren wedi syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd “dyma etifeddiaeth deg.”  Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf—­y llanerchau a fuont olygfeydd fy chwareuyddiaethau plentynaidd,—­neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion lliosog a hawddgar,—­ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma’r fan debycaf oll.  Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a gysegrwyd gan ffyddlondeb.  Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb ei wadu—­fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais gyfeillgarwch oedd yn fel i’m genau ac yn iechyd i’m hesgyrn.  Os gwelwch chwi neb o’r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y’nghoflyfr Gwalia,—­dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.

Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu (ni’m cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o’m harddel.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.