Clywai Alun destun da,
Alawon Haleluia;
A chiliodd dros ei cheulan,—
Hi droes lif ar draws y lan;
A mynnent hwy, er maint hon,
Yn eu braw, rwyfaw’r afon:
I dawch Alun dychwelynt,—
Aeth hon fel y Gison gynt:
A mawr dwrdd—ym merw’r donn,
Cell agerdd cylla eigion:
Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,
Gael yno dorf galon Duw;
Llafuriodd y llifeiriaint,
Gyda si, i gadw y saint;
Sugnai’r llyn y gelyn gau,
Gwingodd dan grafanc Angau.
O foreu dwl, ar fyrr daeth
Gwawr deg o waredigaeth;
’Nawr gwelai’r Cymry’r galon,
Yn soddi is dyli’r donn;
Gan wau yn dyrrau dirif,
A swn eu llais yn y llif;
Llifeiriant a i holl farrau,
Tonnau certh, arnynt yn cau:—
Nodent nad oedd mewn adwy,
Glan, na maes, un gelyn mwy;
Prin coelient—safent yn syn—
Ddolef eu ciaidd elyn.
Dyferai eu clodforedd,
Drwy’r glynnau yn hymnau hedd;
Ac yn eu plith canai plant,
Swn melus atsain moliant.
Yna’r saint mewn eres hwyl
A anerchent,—iawn orchwyl—
Araf lef i’r dyrfa lan,
Dorrent ollyngdawd eirian.
“Ein Ner, mewn blinder, fu’n blaid
I’w war union wirioniaid;
Duw’n y blwng wrandawai’n bloedd,—
Boddai yna’r byddinoedd.
“Eurawg olwynion hen Ragluniaeth,
Barai’r dolydd, y wybr a’r dalaeth,
I wyrthiol adsain germain gaeth,—Alun
Foddai y gelyn,—caem fuddugoliaeth.
“Duw Ner roes yr hoewder hwn,
I’n Duw eilchwaith diolchwn;
Llawforwyn fu’r llifeiriant,
Gyda bloedd i gadw ei blant.
“Iolwn na byddo’i wiwlwys—ogoned,
Ac enaint Paradwys,
Gilio oddiar Gwalia ddwys,
Na’u aroglau o’r Eglwys.
“Duw’r hedd fo’n eich harwedd chwi,
Drwy genedl lawn drygioni;
A chwedi oes heb loes lem,
Noswyliaw boch yn Salem.”
Hwy wahanent ar hynny,
Heb wybod ofn,—bawb i’w dy;
A’r lleddf ddau genadwr llon
Draw hefyd i dy Rhufon.
Ac ar hwyl deg, yr ail dydd,
Dwyreent mewn dir awydd,
I rodio i lawr at ffrwd las,
Glennydd lle bu galanas:
’Nawr aber, fel arferol,
Ydoedd hi ar hyd y ddol;
Ciliai’r dylif, clwy’r dylaith,
A’i dwrf oll, pan darfu’i waith;
Dai’r ardal yn dir irdeg,
Lle berwai tonn, ddai’n llwybr teg:
Gwelent hwy, wrth geulan tonn,
Gelanedd eu gelynion;
Yn dyrrau, ’n rhesau di ri,
O’r Belan hyd i’r Beili.
Gwelai Rhufon dirionwawr,
Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.
Ei ddull, ei wedd, a’i ddillad,
A’i lun, oedd fel un o’r wlad.
Craffai arnaw—draw fe drodd,
A lliw egwan llewygodd;
Oherwydd y tramgwydd trwm
A ddyrysodd ei reswm;
Drwy’i galon a’i dirgeloedd,
Safai bar,—can’s ei fab oedd;
Ei deulu o’i ddeutu ddaeth,
Gan weled ei ddygn alaeth;
Rhoent uwch ei fab, drygfab,—dro
Eu ced olaf,—cyd-wylo;
Uchel oernych alarnad
Wrth ei ddwyn fry i dy i dad:
(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,
A dal dig, a gadael Duw,—
Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,
Wnai ei ddwyn i’w ddienydd!)