O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,
I gynnal ei blant gannoedd,—a dwfr fal
Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,
Ac a lywiai Iago a’i luoedd
Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,—
A Pharaoh a’i anhoff yrroedd—wnai gau
O fewn dorau y gorddyfnderoedd;
Y Duw hwnnw gyfyd hinon
Awyr dawel, o oriau duon,
Dilai gwared ei deulu gwirion
Rhag galanas a rhwyg gelynion;
Y Duw fu’n blaid Gedeon, rwystra i yrr
Yr un o’r Brithwyr wanu’r Brython.”
Trwy galon Rhufon yr aeth
Cywir donau crediniaeth;
Distawodd, lleddfodd y llu,
Eu gwelw wawr a’u galaru;
Heb ddal ynni, boddlonynt
I weision Ior hwylio’r hynt.
Hwy roddent gyfarwyddyd
Am hwyl y gorchwyl i gyd.
Ag ysgafn droed i goed gwydd,
Encilient dan y celydd;
Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,
Anwylaidd, safai’n olaf;
A thawel gynorthwyai
Y gweinion efryddion rai.
Yn ol dod dan gysgod gwig
I gyd, ar lawr y goedwig,
Plygent lin, ac a min mel
Yn ddwys mewn gweddi isel:
Yn ysbaid hyn, os bai twrf,
Ochenaid lesg, a chynnwrf,—
Codai Garmon lon ei law,
Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.
Er gwersi, er gweddi’r gwyr,
Er teg osteg, ac ystyr,—
Gwael agwedd y golygon
Ddwedai fraw y ddiwad fron.
Ar hyn, dyna’n syn neshau
Athrist dwrf, a thrwst arfau;
Lwyrnych estronawl oernad,
Croch gri, a gwaeddi,—“I’r
gad";—
Yr waedd oedd yn arwyddaw
Fod galon llymion gerllaw:
Yna y treigl swn eu traed,
Yn frau o fewn cyrrau’r coed,—
Lleng a’u gwich am ollwng gwaed
Gwyr o ryw hawddgara ’rioed.
Adeg alarus ydoedd,
Ac awr heb ei thebyg oedd;
Awr gerth, na ddileir o go’,
Ac awr calonnau’n curo;
Y goch ffriw aeth a’i lliw’n llwyd,
Dewr wedd ae’n orsedd arswyd.
Trwy’r ddol y gelynol lu,
Groch anwar, wnai grechwenu,
Er dannod gwarth Prydeinwyr,—
(Rhy fuan gogan y gwyr.)
Gan ymnerth, ac un amnaid,
Yn llu yn awr, oll ’e naid
Y Brython,—yn llon eu llef,
Unllais, ac adlais cydlef,
Germain oedd, rho’i Garmon air,
Addasol ei ddewisair,—
Haleluia! Haleluia! lawen,
Ar y gair, ebrwydd y rhwygai’r wybren,
Creigiau,—a chwedi pob crug a choeden
Yn y dyspeidiad oedd yn d’aspeden;
A’r engyl yn yr angen—yn uno,—
A gawriai yno holl gor y wiw-nen.
Chwai hyrddiwyd galon chwerw-ddull,
Dychrynnent, ffoent mewn ffull.
“Frithwyr ffel! beth yw’r helynt?
Dewch i gad,—ymffrostiech gynt!
Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,
Hwi’n golofn,—dacw’n gelyn!
Ymrestrwch,—troediwch mewn trefn,
Och! enrhaith! beth yw’ch anrhefn?”
Unwaith ni wrendy’r annuw,
I’w dilyn mae dychryn Duw;
Eu heirf serth, yn y twrf sydd,
Wana galon eu gilydd;—
Astalch i astalch estyn,
A chledd sydd yng ngledd y’nglyn.