Yna deffrodd awelon y dyffryn,
Ae’ si trwy y dolau’n Ystrad Alun;
Haul drwy y goedwig belydrai gwed’yn,
Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn,
D’ai lliw y rhod oll ar hyn—fel porffor,
A goror Maelor fel gwawr aur melyn.
Ar ei hadain, y seingar ehedydd
Fwria’i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd;
Deffroai gantorion llon y llwynydd
I bereiddio awelon boreu-ddydd,—
A pher wawd i’w Creawdydd,—trwy’r
wiw-nen,
O ferion awen,—am foreu newydd.
Bwrid ar hyn heb eiriach,
Ganiadau o bigau bach;
Eu glwys-gerdd lanwai’r glasgoed,—
Caniadau rhwng cangau’r coed;
Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,
Trwsio’i phlu a chanu’i chainc.
Yna llon ganai llinos—i gynnal
Cerdd geinwech yr eos,
Ymorau heb ymaros,
I Geli am noddi’r nos.
A seiniai, pynciau pob pig
I’w Creawdwr caredig;
Nes yr aeth yn mhen ennyd
Yr wybr fan yn gan i gyd.
Esgynnent, troent eu tri
I balawg Fryn y Beili,
I weld y wlad,—ferthwlad fau,—
Rhedai Alun trwy’i dolau
Dyffrynol, breiniol a bras,
Oll yn hardd a llawn urddas;
Duw Celi oedd gwedi gwau
’N gywrain eu dillad gorau;
Deor myrr, neithdar, a mel,
Yn rhywiog a wnae’r awel;
Aroglai’r manwydd briglas,
Y bau a’i chwrlidau’n las;
A diffrwyth lysiau’r dyffryn
Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.
Ebrwydd, y corn boreubryd
Alwai ’ngwrth y teulu nghyd;
Teulu y castell telaid,
’Nol porthi, mewn gweddi gaid.
Rhufon a yrrai hefyd
Efo’r gweis, trwy’r fro i gyd,
Am neges em enwogion
I weled tir y wlad hon,—
Yr eilient yn ochr Alun
Araeth am gadwraeth dyn;
A’u bod am weini bedydd
Yn ael y dwfr, ganol dydd;
Ag awydd ferth, gweddai fod
Bawb ynaw a’u babanod;
Mai bechan y Llan oll oedd
I gynnwys amryw gannoedd.
Gofid Rhufon.
Felly aent o’r arfoll hon
Eu tri, i’r gerddi gwyrddion;
Mawl i Dduw roent mewn teml ddail,
Gwedi ’i gwau gyda gwiail;
Ei lloriau, a gleiniau glwys,
B’rwydid fel ail Baradwys;
Sonient, with aros yno,
Am och a brad,—am uwch bro,—
Lle na ddel gwyll neu ddolef,—
Am urdd yn Nuw,—am ardd Nef,—
Gardd o oesol radol rin,
A’i haberoedd yn bur-win.
Rhufon, dan ofid rhyfawr,
Ni ddywedai—ofynnai fawr;
Danghosai’ liw, nid gwiw gwad,
Loes erwin uwchlaw siarad;
O’r diwedd, ’nol hir dewi,
Ochenaid, a llygaid lli,
A’i ddagrau, fel rhaffau’n rhydd,
O’i lygaid yn wlawogydd,—
Tan grynnu’i fant yn graen, fo
Gwynai alaeth gan wylo,
“Enwogiawn, mi wn agos
Rhaid i ’null ar hyd y nos
Ddangos fod saeth gaeth, a gwg,
Drwy’r galon draw o’r golwg;
Y ngrudd gref, lle gwingodd graid,
Llychwinodd aml ochenaid;
Grym y groes, a dagrau’m gwraig,
Dyrr wen y diarynaig.
Mynegaf i’m henwogion
Hanes fy mriw—naws fy mron,
A’r achos o’m hir ochi,—
Yr oedd mab iraidd i mi;
Delw i’r holl ardaloedd,—
Eu tegwch a’u harddwch oedd;
’R oedd ei rwydd daclusrwydd clau,
A’i lun nerthol yn wyrthiau;
A gwen hoff lawen a fflwch,
Ireiddiwch ar ei ruddiau.