Prydain yn 429.
Hil Gomer yr amser hyn,
Oedd o nodwedd anhydyn;
Amryw nwyd wnae Gymru’n waeth,
Mawr gynnen, a Morganiaeth;
Gwyr digariad i’w goror,
Lanwai a cham, lan a chor:
Rhai ffol yn cymysgu’r ffydd
A choelion am uchelwydd;
Gwadu Crist, neu gydio’u cred
Ar glebr am “dreiglo abred”;
Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,
Ruthrent, lunient alanas;
A Phrydain heb undeb oedd,
Na llyw wrth ben ei lluoedd;
Y llysoedd, yn lle iesin
Farnu gwael, oe’nt defyrn gwin;
Brad amlwg, a brwd ymladd,
Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,
Wnae Albion,—a’u troion trwch
Yn ail i ryw anialwch.
Taith y ddau.
Y teulu apostolaidd
Eu bron, cyn gorffwyso braidd,
Drwy’r wlad, ar waith clodadwy
Eu Tad, ymegnient hwy.
Gan foreu godi,—rhoddi’n rhwyddion
Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;
Digyrith bleidio gwirion—rhag gwrthdrin,
Rhoi llaeth a gwin i’r llwythau gweinion.
Cynhadledd a’r Morganiaid.
Iselaidd furiau Salem
Godent, ac urddent a gem;
A gem y ddau ddegymydd,
Fu aur a ffurf y wir ffydd;
Gemau’r gair, disglair, dwys,
Yw parwydydd Paradwys;
Er gogan, a phob anair,
Dysgent, pregethent y gair,
Nes cwnnu’r llesg gwan o’r llaid,—
Taro’r annuw trwy’r enaid:
Lle blin a hyll o’u blaen oedd,
Ail Eden o’u hol ydoedd;
O flaen rhain, diflannu’r oedd
Heresiau mwya’r oesoedd;
Tost iawn chwedl i genedl gam
Fu’r holiad yn Verulam:
Ugeiniau o’r Morganiaid,
Ddynion blwng, oedd yno’n blaid:
Llwyddai Ion y dynion da,
Er c’wilydd Agricola;
Ar air Ion, i lawr yr aeth
Muriau gweinion Morganiaeth.
Dynion oedd dan adenydd—ystlumaidd
Gwestl amhur goelgrefydd;
Ymagorai’r magwrydd,
Gwelen’ deg oleuni dydd.
Morganiaid er mawr gynnwrf,
Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;
Yna’r dorf anwar a dig,
At y gwyr godent gerrig,—
A mynnent bwyo ’mennydd
Y rhai ffol fu’n gwyro’r ffydd!
Ond y graslon Garmon gu
A ataliodd y teulu:
Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,—
“Clywch! eon, ry eon rai!
Pwyllwch, arafwch rywfaint!
Godde’ sy’n gweddu i saint;
I’n Duw y perthyn dial,—
I’r annuw ein Duw a dal;
Par ei farn am bob rhyw fai,
Llaw dialedd lle dylai.
Ond cafodd fodd i faddau,—
Drwy gur un—gall drugarhau;
Y garw boen, hyd gaerau bedd,
Agorai gell trugaredd;
A’n harch gwir, i lenwi’r wlad
Yn farn am gyfeiliornad,
Yw troi, o ras ter yr Ion,
Galonnau ein gelynion
I droedio wrth ddeddf dradoeth;
Dyn yn ddwl,—Duw Ion yn ddoeth.
Felly yn awr, dan wawr well,
Pob un ant tua’u pabell;
Nef uchod rhoed Naf i chwi,—
Mewn heddwch dychwelwch chwi.”