Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd,
At y Nef yn estyn oedd;
Dynoethid yna weithion,
Draw i’r dydd, odreu’r donn;
Dodwodd y cwmwl dudew
Ei genllysg i’r terfysg tew;
A’r gwyntoedd rwygent entyrch,
Neifion deifl i’r Nef yn dyrch;
Deuai nos i doi y nen,
Duai’n ebrwydd dan wybren;
Ac o’r erchyll dywyll do
Tan a mellt yn ymwylltio;
Taranent nes torwynnu
Y llynclyn diderfyn du.
Yn mysg y terfysg twrf-faith
Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,
Yn morio yn erbyn mawr-wynt,—
Mor yn dygyfor, a’r gwynt
Wnai’r hwyliau’n ddarnau’n ei ddig,
A’r llyw ydoedd ddrylliedig;
Mynedyddion mwyn doddynt,
Eu gwaedd a glywid drwy’r gwynt;
Llef irad a llygad lli,
Y galon ddewra’n gwelwi;
Anobaith do’i wynebau,
Ac ofn dor y gwyllt-for gau,
Gwynnodd pob gwep gan gynni,—
Llewygent,—crynent rhag cri
Gwylan ar ben’r hwylbren rhydd,
“Ysturmant yr ystormydd!”
A mawrwych galon morwr,
Llawn o dan, droai’n llyn dwr;
Llw fu’n hawdd, droe’n llefain O!
A chan elwch yn wylo.
Garmon a Bleiddan.
Yn mawr swn ymrysonau
’R tro, ’roedd yno ryw ddau
Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,
A chanent heb ochenaid:
Un Garmon, gelyn gormail,
A Bleiddan ddiddan oedd ail;
Gwelent drigfannau gwiwlon,
Ac iach le teg, uwchlaw tonn,—
Lle nad oes loes, fel isod,
Nac un westl dymestl yn dod;
Eiddunent hwy Dduw anian,—
Traethaf a gofiaf o’r gan.
“Hyd atad, ein Duw, eto,
Dyneswn, edrychwn dro;
Rhown i ti, rhwng cernau tonn,
Hael Geli, fawl o galon;
Rhued nawf, nis rhaid i ni,
Uwch ei safn, achos ofni:
Y lli dwfr sy’n y llaw dau,—
Dy law, ’n Ion, a’n deil ninnau.
“Ti yw arweinydd y taranau,
Tefli y sythion fellt fel saethau,—
Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau
Anwar dymestl,—mae’n wir diamau:
Yng nghynnen yr elfennau—rhoddi’r
gwynt,
Gelwi gorwynt,—neu gloi ei gaerau.
“Y mor uthr udawl, a’i dra mawr ruthriadau,
Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;
Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,
Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;
Cesgli’r gwynt chwyrn i’th ddyrnau,—yn
sydyn,
Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.
“Pa ragor in’ for yn fedd
Na gwaun dir i gnawd orwedd?
Cawn i’th gol o farwol fyd,
Yn nydd angeu’n hawdd ddiengyd,—
Mae’n calon yn boddloni
I uniawn drefn Un yn Dri.”
Pan ar ben gorffen y gan
Y terfynai twrf anian;
Clywai’r Un sy’n cloriannu
Rhawd, o’r ser i’r dyfnder du:
Arafodd, llaesodd y lli,
Trychineb, a’r trochioni;
Mor a nen ymyrrai’n ol,
I ddistawrwydd ystyriol;
Deuai hwyl a da helynt
Y donn yn gyson a’r gwynt;
Mewn un llais rhoent hymnau’n llon,
I’r hwn a roes yr hinon;
Yna y chwai dorrai dydd,—
Dyna lan Prydain lonydd.
Doe’r llong, ar ddiddan waneg,
I ben y daith—Albion deg.