Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna’r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a’r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o’r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na’i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.
Mi a glywais fod Mrs. Parry a’i mab yn iach galonnog.—Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y “gwr ieuanc dieithr” ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.
Henffych, amhrisiadwy drysor,
Blaenffrwyth y serchiadau mad;
Ni fedd natur bleser rhagor
Na theimladau mam a thad.
Wrth olygu’th wyneb siriol,
Gaiff dieithr godi ei lef,
’Mhell uwchlaw syniadau bydol—
Erfyn it’ fendithion Nef?
Nid am gyfoeth, clod, na glendid
Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd
Gyrchu at amgenach nod.
Boed i’th rudd sy’n awr a’i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,—
Gwisged bob lledneisrwydd llon.
Dy wefus sydd wrth ei chusanu
’N ail i rosyn teg ei liw,—
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.
Na wna achos wylo defnyn
O’r llygaid ’nawr mewn
cwsg sy’n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i’w roi.
Dy ddwy law, sy’n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;
Ond rho ’mhleth i ddweyd dy bader
Ac i ofyn bendith mam.
Na boed gwen dy wyneb tirion
Byth yn gymysg gyda thrals,
Ac na chaffo brad ddichellion
Le i lechu dan dy ais.
Na boed byth i’th draed ysgogi
Oddiar ffordd ddaionus Duw:
Er ei chau a drain a drysni—
Llwybr i’r Baradwys yw.
Boed i’th riaint fyw i’th arwain
Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen
Tra yma yn yr anial dir.
Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda’r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na’r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y “Cywydd i law merch,” ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. ‘Digon o newid arno,’ meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda’r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu “Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr.”
Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,—yn wir
mae gorfoledd am lwyddiant ein
Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn
pa beth a ysgrifenais.