HAWDDAMOR.
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.
Nawddamor bob gradd yma,—orwych feirdd,
Rhowch fyrddau
’ni wledda;
Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.
Bu Caerwys, er pob corwynt—a ’sgydwai
Weis cedyrn eu
tremynt,—
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.
Troi o hyd mae byd heb oedi—a’n isel,
Mewn oesoedd,
brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a’i Hathen
hi,
Awr i Gaerwys ragori.
[Caerwys. “Er braw, anhylaw helynt, Nyth y gain farddoniaeth gynt.”: alun40.jpg]
[Un O Heolydd Caerwys. “Rhoes Groeg hen,
a’i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.”:
alun56.jpg]
DAFYDD IONAWR.
Englyn o fawl i’r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a’i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.
Yr Awen burwen gadd barch,—unionwyd
Gan IONAWR o’i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A’i mawl yw yn ymyl arch.
GWYL DDEWI.
Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.
Ton,—“Ar hyd y Nos.”
Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,—
Tanio celloedd—gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu’n peri
I’r ael dduo ar Wyl Ddewi,
Ar
hyd y nos.
Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson fu’n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi—
Law-law’n dawel Wyl ein Dewi,
Ar
hyd y nos.
Clywch trwy Gymru’r beraidd gyngan
Rhwygo awyr a goroian—
Swn telynau—adsain llethri—
O Blumlumon i Eryri—
Gwalia ddywed—’Daeth Gwyl Ddewi,’
Ar
hyd y wlad.
Felly ninnau rhoddwn fonllef
Peraidd lais ac adlais cydlef;
Rhaid i’r galon wirion oeri
Cyn’r anghofiwn wlad ein geni,
Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,
Ar
hyd y wlad.
EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.
AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.
Wyddgrug, Awst 16eg, 1823.
Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o’r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y Sir, a thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru “yn brydferth goelcerth i gyd.” Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.