[Castell Conwy. “Heb elynion o Gonwy O fewn maes i’w hofni mwy.”: alun25.jpg]
“A thew ffrwyth ar
Gwnna’n gynnar;
Daw mawnog, gallt, a mynydd,
A bronydd, yn dir braenar.
“Y ddwy wlad cyd addolant,
Cyd foli’r Ion union wnant;
Rhont glodydd i’w Dofydd da,
Law-law mewn Haleluia:
“Yna y tyf yn y tir
Bob helaeth wybodaeth bur,
O ddirgelion meithion mor,
Daear, a’i sail, hyd i’r ser.
“Helicon pob ffynnon ffel,
Parnassus pob bryn isel:
Eu rhyfedd faner hefyd
Achuba, orchfyga fyd;
O Gressi’r maes hagr asw,
I antur lan Waterlw:
Ac y diwrnod cadarnwych
Bydd y deyrnas addas wych
Heb ei bath, heibio i bob
Un arall o fewn Ewrob;
Rheola mewn rhialyd
O begwn i begwn byd.”
Gyda bloedd, gweda Bleddyn,
“Y nefol Ior wna fel hyn,
Foreu tawel o frad tywyll,
A llewyrcha o’r ddichell erchyll:
Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,
Yna pawb a awn i’n pebyll.”
CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.
Ymysgydwch o’ch cysgadrwydd—
Yn filoedd dowch i foli Duw;
Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,
Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:
Mae pob Calan fel yn gwaeddi,
A’r tymhorau bob yr un,—
Yn eu dull yn dwys bregethu—
“Derfydd dyddiau byrion dyn.”
Heddyw’m gorchwyl innau dderfydd,
Alwai’n chwaneg mo’no
chwi;
Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd
A lladmerydd y bum i;
Mi fynegwn ddull y tywydd,
P’un ai teg ai garw’r
gwaith,
Fel y gwypech ar obenydd
Ai addas oedd y dydd i daith.
Do, mi wyliais gylch eich drysau
Ar ryw oerion oriau hir,
Rhag i ddynion drwg eu nwydau
Dorri eich aneddau’n wir;
Tywydd garw, mwy nag oerni,
Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,
A chan ofal i’ch gwas’naethu
Methais gysgu lawer gwaith.
Daeth fy ystod at ei therfyn,
Darfu’m tro oddeutu’ch
tre’,
Un galenig wyf yn ofyn
Am fy llafur yn y lle;
Chwi sy’n meddu da a moddion—
Digon sy’n eich llety llawn,—
Gwnai ychydig o’ch gweddillion
DIC a’i deulu’n llawen
iawn.
LLWYDD GROEG.
Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.
Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau—Groeg,
Hir rwyged ei llongau
Bob rhes o lu gormes gau,
Drwy’r moroedd draw a’r muriau.
“A llwydd gyfarwydd a fo
I’w Rhyddid, yn eu rhwyddo:
Na lanwed yn oleuni,
Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli’;
Ond isel, isel eisoes
Drwy gred ymgrymed i’r Groes.
A thra tonn, Marathon, a muriau,
A rhin milwyr yr hen ymylau,
A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,
O’u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,
Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,—yn haid,
Weis Soldaniaid, isel eu doniau.”
[Marathon. “A thra tonn, Marathon, a muriau, A rhin milwyr yr hen ymylau.”: alun33.jpg]