Iach amrant Lloegr a Chymru,
Daw’r ddwy-wlad mewn cariad cu;
Yna’n y ddwy mwy ni ddel,
I’w trefi helynt rhyfel;
Un llys fydd drwy’n hynys hon,
Una’i gwyr dan un goron;
Unant nerth, rhag rhyferthwy,
Un reddf ac un ddeddf i’r ddwy;
Un Duw arnynt, un deyrnas,
Un lluoedd, un floedd, un flas:
Gwelaf Frython, {28}—’rwy’n llonni,
Yn eistedd ar d’orsedd di!
Ac o ystlys a gwestle,
Y gyllell hir gyll ei lle:
A o gof ymladdau gant,
Eu hing hefyd anghofiant;
Cant gyd-fwynhau breintiau braf,
Law-law i’r genedl olaf:
Lle gwelwyd twyll a galar,
Echrys boen, a chroes a bar,—
Rhinwedd welir a hinon,
Gwenau, a bonllefau llon;
Rhyfela dry’n orfoledd,
Screchiadau yn hymnau hedd.
Ar eirian fro Eryri,
Ei chreigiau a’i hochrau hi,—
Lle mae trigfa’r bar yn bod,
A dwyn arfau dan orfod;—
Lle gwelir llu y gelyn,
A’u bloedd hell, y blwyddau hyn,—
Anhirion elynion lu,
A’u tariannau’n terwynu;—
Anianawl serch yn ennyn,
A ffoi at y gwaew-ffyn;—
Tyf breilos, a rhos di-ri’,
Ar hon, a’r loew lili;
Eos fydd bob dydd yn dod
I fryn, yn lle cigfranod:
“Ar y llethri a’r tyli telaid,
Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,
Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid,
Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,
Llamsach wyn bach yn ddibaid,—mor ddifyr,
Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.
“Lle codwyd bwyeill cedyrn,
Bydd twmpathau chwarau chwyrn;
Dawnsio pan y darffo y dydd,
A thelyn ar frith ddolydd:
I’n hynys, pan ei hunir,
Daw tawelwch, heddwch hir;
A chywir heddwch a rhyddid
Wneir y dydd hwnnw yn aur did;
Ar wddwf Cymru rhoddir
Y gadwen hon i gadw’n hir;
Y drefn gaeth wriogaethol,
Mwya’i nerth, a i ddim yn ol;
Bydd un gyfraith, ’run rhaith rhawg,
I lwyth isel, a Th’wysawg:
Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,
Ri’r gwlith, yn eu plith o’u plaid;
Colofnau y breintiau bras,
A chadarn-weilch y deyrnas;
Ar bob mater a cherydd,
Rheithwyr yn farnwyr a fydd:
’R un fro wnaeth gwyar yn frith,
O dda gynnyrch ddwg wenith;
Cod yr amaeth, cydia’i rwymau,
Cain reolau, cyn yr haulwen;
Deil waith odiaeth, dol a thidau,
Iau a bachau lle bo ychen;
Teifl yr hadau,—llusga’r ogau,
Egyr ddorau gwar ddaearen,
Er cael cnydiau, yn eu prydiau,
Rhag i eisiau rwygo asen.
“Esmwytho nos amaethydd,
Heddwch, diofalwch fydd,—
Y daw gelyn digwilydd
I’r berllan, na’r ydlan rydd;
Ac ni raid braw daw un dydd,
Ryw ormeswr i’r maesydd,
Neu Fodur cryf i fedi
’Nol anferth drafferth i drin:
Tybia’i wlad yn Baradwys,—
Dyry gainc wrth dorri’i gwys
A swch fuasai awchus
Gleddyf un dewr hyf di-rus;
Ymaith ar unwaith yr a,
Uwch ei boen y chwibiana.
“Ac anterth cymer gyntun,
Heb i ofal atal hun;
O hyd yn ddiwyd ddiarf
Heb fod dan orfod dwyn arf
Heb elynion o Gonwy
O fewn maes i’w hofni mwy.